One of Angleseys many safe and sandy beaches

Lleoedd o ddiddordeb yn y cylch

  • Castell Beaumaris
  • Plas Newydd
  • Castell Penrhyn
  • Castell Caernarfon
  • Castell Conwy
  • Melin Wynt Llynnon
  • Sw Môn
  • Goluedy Ynys Lawd
  • Twr Elen
  • Pili Palas
  • Oriel Môn

Pethau i'w gwneud

  • 'Sgota môr a dwr croyw
  • Llwybrau cerdded gwledig ac ar yr arfordir
  • Marchogaeth
  • Golff
  • Dringo creigiau
  • Canwio a chaiacio
  • Hwylio
  • Bordhwylio

Gellir cael mwy o wybodaeth am Ynys Môn ar: www.ynysmon.gov.uk a www.mentermon.org.uk


LLEOEDD I YMELD Â HWYNT

Mae digonedd o leoedd diddorol yng Ngogledd Cymru – mae rhywbeth yma at ddant pawb.

Mae nifer o feini coffa / henebion Celtaidd ar Ynys Môn, yn ogystal â chestyll a phlastai – castell Beaumaris a Phlas Newydd ( cartref Ardalydd Môn ) fel enghreifftiau.

Mae castell Penrhyn dros y dwr yn Llandygai ger Bangor, a chastell enwog Caernarfon lle yr arwisgwyd y Tywysog Siarl heb fod yn bell, ac i fyny’r A55 mae castell Conwy.

Ar gyfer y mwyaf heini, mae gan Ynys Môn bob math o gyfleusterau:- reidio ceffyl; golff; dringo creigiau; canwio; hwylio; bordhwylio, a llawer o gyfleusterau eraill yn yr awyr agored.

Yn 2002, fe enillodd traethau Ynys Môn y gwobrau glan-môr canlynol:-

  • 4 baner las / cyrchfan poblogaidd
  • 2 o wobrau cyrchfan glan-y-môr
  • 11 o wobrau glan-y-mor gwledig
  • 9 o wobrau glan-môr / arfordir gwyrdd

Gellir cael y manylion llawn am y traethau unigol drwy ymweld â rhaglen ar y wefan 2004 Seaside Awards – gan glicio ar Ynys Môn ar y map.

Am drip diwrnod i’w gofio ewch ar y gwch fawr o Gaergybi i Ddulyn.

Mae cyfleusterau arbennig i blant ar Ynys Môn
gyda nifer o barciau gwledig ac ierdydd anturio ar gyfer y rhai ieuengaf.

Mae nifer fawr o dai bwyta ardderchog a thafarndai ar Ynys Môn – amrywiaeth sy’n darparu ar gyfer pob chwaeth. Os mai bwydydd môr sy’n apelio, yna dylech ymweld â’r Lobster Pot, ty bwyta sy’n enwog yn ryngwladol am ei fwydydd môr. Lleolir y Lobster Pot ym Mhorth Swtan, sydd nepell o Faes Carafannau Bae Penrhyn. Mae rhan fwyaf o’r tai bwyta / tafarndai â darpariaeth arbennig ar gyfer plant.

Gellir cael mwy o wybodaeth am weithgareddau a lleoedd o ddiddordeb wrth y ddesg yn ein derbynfa.


Dylunio a lletya gwe gan WiSS Cyf © 2003 - 2010