| Teulu Williams
sydd biau ac sydd yn rheoli Maes Carafannau Bae
Penrhyn. Fe’i lleolir ar arfordir
Gogledd-Orllewinol Ynys Môn, ar drwyn
o dir sy’n edrych allan i gyfeiriad bae Caergybi
- a’r goleudy sydd ar Ynysoedd y Moelrhoniaid.
Ar y maes mae 32 o aceri ar gyfer y rhai sy’n
teithio gwlad gyda lleiniau arbennig ar gyfer carafannau
symudol ( gyda lle i fachu trydan ) a phebyll.
Hefyd, mae Bwthyn Pum
Seren ar gyfer Gwyliau Hunanarlwyol ar gael
(gyda lle i gysgu 6).
Un o fanteision mawr y
maes yw ei faint. Maint sy’n caniatau
lle i bawb; lle i hedfan barcud; chwarae pêl-droed
a chriced; neu gyfle i un ddatrys a datod leiniau
pysgota ar ôl diwrnod o ’sgota ar y
môr neu yn un o’r llynnoedd dwr croyw
sydd gerllaw.
Ar gyfer selogion brwdfrydig chwaraeon
dwr, mae bordhwylio, hwylio, a sgio ar ddwr
yn weithgareddau hynod boblogaidd. Mae i’r
maes ei lithrfa gysgodol
ei hun sy’n caniatau lansio pob math o gychod
bychain. Nodwch os gwelwch yn dda fod gennym bolisi
o beidio a derbyn jet skis

Mae cyfleusterau o bob
math i’w gael ar y maes yn cynnwys
pwll nofio dan do wedi ei dwymo; siop; nwy gwersylla
a nwy calor ar werth; ty a chyfleusterau golchi;
cawodydd wedi eu gwresogi’n ganolog; toiledau
gyda thoiled arbennig i’r anabl; ffôn
cyhoeddus, a man chwarae arbennig i’r plant.
Cwrt Tenis bob tywydd.
|