| Amodau a thelerau
1. Mae lleiniau wedi eu rhifo ar gyfer carafannau teithio
a gwersyllwyr. Tra gwneir pob ymdrech i ymateb i anghenion
rhai sydd am gael llain arbennig, ni ellir gwarantu hynny.
Gellir trefnu estyniadau, ond mae hynny'n amodol ar y
llogi sy'n bodoli.
2. Ni wneir ad-daliadau ond mewn amgylchiadau arbennig:,
fe ellir rhoi credyd am nosweithiau na defnyddiwyd, ond
ni wenid hynny am dywydd garw..
3. Cedwir yr hawl: (a) i newid y prisiau os bydd costau
yn newid yn y dyfodol ( h.y. newidiadau mewn T.A.W. );
(b) oherwydd bod polisi parhaus i wella a newid cyffleusterau
a ddisgrifir ym Maes Carafannu Penrhyn, gellir gwneud
hynny heb rybudd.
4. Ni fydd bai na chyfrifoldeb ar Faes Carafannau Bae
Penrhyn, na’i gweithwyr, am ddamweiniau all ddigwydd
i garafannau teithio a gwersyllwyr ac ni fyddant chwaith
yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod all ddigwydd
i eiddo personol.
5. Dim ond grwpiau teuluol, cyplau, clybiau a chymdeithasau
all logi lle. Ni dderbynir personau o dan 18 oed os nad
ydynt yn aelodau o deulu, neu glwb cydnabyddedig neu gymdeithasau
gydag arweinyddion cymwys fydd yn gyfrifol am eu hymddygiadau.
Ni chaniateir i bersonau dan 18 oed fod tu allan i’w
preswyliad ar ol 11 o gloch y nos, os nad oes rhiant ney
warcheidwad (ni chaniateir brawd, chwaer na ffrind fel
gwarcheidwad) yn eu harolygu.
6. Mae Maes Carafannau Bae Penrhyn yn cadw’r hawl
i ganslo neu ddod a gwyliau
sydd wedi ei drefnu i ben os yw gwestai heb ddadlennu
ffeithaiu materol a ofynir mdano ar y ffurflen llogi.
Fe all y cwmni fynnu bod unrhyw berson sydd heb ufuddhau
i orchmynion y Maes Carafannau, neu bprofi ei hun yn niwsans,
yn gadael y maes. O dan y fath amgylchiadau ni fydd y
cwmni yn atebol i unrhyw un o'r personau sy'n ymwneud
â'r trafferithion hyn, a bydd y cwmni yn rhyddhau
eu humain o'u cyfrifoldeb a'u rhwymedigaeth. Mater i'r
cwmni fydd penderfynu os bydd ad-daliad.
7. Cedwir yr hawl gan y rheolwyr i wrthod cais am logi
lle, neu fynediad gan unrhyw berson neu bersonau ar unrhyw
adeg, heb fod angen rhoi rheswm am hyn
8. Rhaid talu'r gweddill o'r arian am logi yn syth ar
ôl cyrraedd y maes.
9. Os oes cwn heb fod ar dennyn neu dywysydd, yna gofynnir
i'r perchnogion adael y Maes. Ni fydd ad-daliad.
|